Brwydr i Gymry Llundain
- Cyhoeddwyd

Morladron Cernyw (14) 21- 37 (23) Cymry Llundain
Mae Cadeirydd Cymry Llundain Bleddyn Phillips wedi dweud y byddan nhw'n gwneud eu gore glas i geisio sicrhau bod popeth posib oddi ar y cae yn ei le wrth i'r clwb obeithio am ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.
Nos Fercher fe wnaeth yr Alltudion ennill cymal cyntaf y gemau ail gyfle yn erbyn Morladron Cernyw 37-21.
Ond cyhoeddodd Undeb Rygbi Lloegr na fydd Cymry Llundain yn cael esgyn o'r Bencampwriaeth oherwydd nad yw'r clwb wedi cyrraedd y safonau angenrheidiol i chwarae yng Nghynghrair Aviva.
Dyw Morladron Cernyw heb wneud cais i gael chwarae yng Nghynghrair Aviva.
Roedd yr Alltudion wedi dweud y byddant yn rhannu Stadiwm Kassam gyda thîm pêl-droed Rhydychen - ond doedd hynny ddim yn ddigon da i Undeb Rygbi Lloegr.
Yn y gêm nos Fercher y Morladron aeth ar y blaen gyd chais Grant Pointer, ond tarodd yr Alltudion yn ôl gyda dwy gic gosb gan Alex Davies a chais yr un i Joe Adjowa a Nick Scott.
Er i'r Morladron gael cais gosb cyn yr egwyl, fe wnaeth dau gais i'r ymwelwyr o fewn dwy funud sicrhau'r fuddugoliaeth.
"Rydym yn hapus gyda'r canlyniad a hefyd y ffordd wnaethom chwarae, "meddai Lyn Jones, hyfforddwr Cymry Llundain.
Bydd yr ail gymal yn Stadiwm Kassam yr wythnos nesa.
Morladron
Cais: Pointer, cais gosb, Burgess
Trosgais: Cook (3)
Cymry Llundain
Cais: Ajuwa, Scott, Tonga'uiha, Lewis
Trosgais: Davies 4
Gôl Adlam: Ross
Cig gosb: Davies 2
Straeon perthnasol
- 24 Ebrill 2012
- 27 Mawrth 2012