Ceisio codi corff o lyn
- Cyhoeddwyd
Mae timau arbenigol yr heddlu yn ceisio codi corff o lyn bach ger Llyn Efyrnwy ym Mhowys.
Dywedodd llefarydd fod y corff wedi ei ddarganfod brynhawn Mercher yn rhaeadr Rhiwargor.
"Unwaith i'r timau godi'r corff o'r dŵr, bydd y broses yn dechrau o adnabod y corff," meddai llefarydd.
Mae'r ymchwiliad i achos y farwolaeth yn parhau.