Rhwydweithio Trefi Bach ar draws Cymru

  • Cyhoeddwyd
Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,
Mae CREW yn honni taw'r unig feysydd twf a welwyd yw 'siopau punt' a siopau elusen a siopau betio

Bydd Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru (CREW) yn lansio Rhwydwaith 'Trefi Bach: Polisi a Chyflenwi'.

Y nod yw hyrwyddo arfer da a dull o gysylltu ymarferwyr yng Nghymru gyda phrofiad ac arbenigedd canol trefi o safon fyd-eang er mwyn helpu gyda datblygu strategaethau adfywio cadarnach.

Bydd CREW yn lansio'r rhwydwaith â Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio ym Margoed ddydd Llun.

Mae CREW yn credu bod yr argyfwng presennol ar gyfer canol trefi yn cynnig cyfle i ailystyried dominyddiaeth manwerthu a datblygu 'dewislen estynedig' o ddefnyddiau sy'n cynnwys trosi gofod manwerthu segur i dai ac unedau byw a gweithio, datblygu gofod swyddfa a gofodau chwaraeon a chyfle i ailgyflwyno darpariaeth iechyd, dysgu a hamdden i'r stryd fawr.

Y Stryd Fawr

Bydd Mr Lewis yn cwrdd â chynghorwyr CREW, a ddaw o asiantaethau yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector sydd i gyd yn rhannu'r weledigaeth y dylai trefi bach fod yn ganolbwynt economaidd egnïol sy'n gwasanaethu adfywio'r ardaloedd o'u cwmpas.

Dywedodd Dave Adamson, Prif Weithredydd CREW: "Mae cyhoeddi Adroddiad Portas ac Ymchwiliad Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi canolbwyntio sylw ar y problemau sy'n wynebu'r stryd fawr mewn trefi bach ledled Prydain.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Caeodd 11 o siopau Game yng Nghymru ym mis Mawrth

"Mae cau safleoedd cadwyni cenedlaethol yn ogystal â busnesau lleol bach wedi gadael canolfannau siopa sydd wedi crebachu ac wedi'u creithio gan safleoedd gwag.

"Wrth i'r siopau gau eu drysau am y tro olaf, mae hyder lleol yn chwalu ac mae dirywiad lleol yn tyfu'n gyflym.

"Yr unig feysydd twf a welwyd yw 'siopau punt' a siopau elusen a siopau betio, sy'n gyflym yn newid ansawdd y profiad stryd fawr ac nid er gwell!

"Er ei bod yn rhwydd gweld effaith dirwasgiad ar y broses yma mae'n rhaid i ni hefyd fod yn ymwybodol o'r dirywiad tymor hwy yn y galw am safleoedd manwerthu stryd fawr wrth i siopa ar y rhyngrwyd a newidiadau siopa allan-o'r-dref newid ein patrymau defnyddio."

'Gofodau agored'

Dywedodd yr Athro Kevin Morgan, Cadeirydd CREW: "Rydym angen 'dewislen estynedig' o weithgareddau canol tref sy'n rhoi rhesymau lluosog dros ymweld â chanol trefi.

"Gall trosi safleoedd manwerthu segur yn ofod swyddfa, defnydd preswyl ac unedau byw a gweithio adfywio canol trefi a dod ag ymwelwyr yn ôl i'r siopau sy'n dal yno.

"Gall defnyddio gofodau agored ar gyfer marchnadoedd a digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol sicrhau egni economaidd a diwylliannol.

"Un ffordd y gwelwyd y dull yma ar waith fu dynodi 'defnyddiau cyfamser' ar gyfer safleoedd manwerthu segur lle caiff sefydliadau cymunedol a chelfyddydol lleol lesau dros dro sy'n sicrhau fod safleoedd segur yn cyfrannu at fywyd y stryd fawr.

"Mae rhai o'r syniadau hyn wedi ennill eu plwyf ym Mhrydain ac i Mary Portas maent yn gweithio orau pan gânt eu gyrru gan 'dîm tref' o bartneriaid lleol sy'n datblygu a rhannu gweledigaeth ar gyfer canol eu tref."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol