Deg wythnos tan Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg
- Cyhoeddwyd

Wrth annog pobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt i ymweld â Bro Morgannwg ar ddechrau mis Awst, dywed Llywydd Anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg mai dyma un o "ardaloedd hyfrytaf Cymru".
Fe fydd llygaid Cymru ar Fro Morgannwg ymhen 10 wythnos ar gyfer cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dyma fydd dechrau wythnos o gystadlu, cymdeithasu a dathlu ar hen faes awyr Llandŵ.
Yn ôl y gŵr o Ddyffryn Conwy, Euryn Ogwen Williams, sydd wedi ymgartrefu ym Mro Morgannwg ers degawdau bellach, mae'r fro yn "gymysgedd o arfordir a threfi glan y môr a phentrefi a threfi deniadol sy'n sicr o apelio at ymwelwyr i'r ardal dros yr haf eleni".
"Bydd croeso twymgalon yma i Eisteddfodwyr ym mhob rhan o'r sir," meddai.
'Croeso'
"Rydym wedi bod yn edrych ymlaen at ymweliad y Brifwyl yn eiddgar ers dwy flynedd bellach, ac mae'r gefnogaeth yn lleol wedi bod yn ardderchog.
"Mae pob ardal wedi mynd ati i godi arian ac i hyrwyddo ymweliad yr Eisteddfod, ac rwy'n siŵr y bydd pawb wrth eu boddau pan fyddwn yn dathlu mai 50 diwrnod yn unig sydd i fynd ganol Mehefin gyda'r fflagiau a'r baneri'n cael eu dosbarthu yn arwydd clir o'r croeso gwirioneddol sydd yma i'r Eisteddfod - ac i'w chefnogwyr - ymhen deg wythnos."
Yn ôl Mr Williams mae hi'n fraint cael ei ddewis i fod yn Llywydd Anrhydeddus i'r Eisteddfod.
"Mae hefyd yn mynd i fod yn anrhydedd sefyll ar lwyfan y Pafiliwn yn annerch y gynulleidfa yn ystod yr wythnos, wythnos pan fydd y Maes yn ferw o weithgareddau o bob lliw a llun," ychwanegodd.
'Arlwy'
"Mae'r arlwy eleni yn wych - o'r cyngherddau gyda'r nos i sesiynau diddorol yn y Babell Lên ac ym Mhebyll y Cymdeithasau, ac o gynnal Maes C ar y Maes ei hun i ddigwyddiadau lu yn Y Lle Celf, Gwyddoniaeth, Y Theatr, Dawns a Maes D.
"Gyda 10 wythnos yn unig i fynd, byddwn yn dechrau cyhoeddi'r arlwy yn ddyddiol drwy gyfrif Trydar yr Eisteddfod (@eisteddfod), ac yna, cyn diwedd Mehefin, bydd y Rhaglen Swyddogol ar gael a manylion gweithgareddau'r Eisteddfod ei hun i gyd yn cael eu cyhoeddi ar y wefan.
"Fyddwch chi ddim yn cael eich siomi.
"Mae digonedd i'w weld a'i wneud yn Eisteddfod y Fro eleni - a gresyn mai dim ond wythnos sydd gennym i groesawu pawb i'r ardal ac i'r Maes ar hen faes awyr Llandŵ."
Mae'r trefnwyr yn annog y rhai sydd heb drefnu llety eto i wneud hynny gyda nifer fach o lefydd ar ôl ar y maes carafanau swyddogol ond mae gan yr Eisteddfod restr llety cynhwysfawr ar y wefan neu drwy'r swyddfa.
Bu'r Brifwyl ym Mro Morgannwg yn 1920 ac yn 1968.
Fe fydd yr Eisteddfod ar dir hen faes awyr Llandŵ ger Y Bontfaen a Llanilltud Fawr rhwng Awst 4-11.
Straeon perthnasol
- 27 Mawrth 2012
- 17 Mai 2012
- 16 Ebrill 2012