Damwain: Dau yn yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Hofrennydd Canolfan Awyrlu Chivenor
Disgrifiad o’r llun,
Aeth hofrennydd â'r fenyw i'r ysbyty.

Mae menyw 31 oed a dyn 24 oed yn yr ysbyty wedi i fan wen Daihatsu Hijet gwympo 250 metr i lawr ceunant ar bwys Mynydd y Rhigos ger Treherbert ddydd Iau.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn apelio am dystion.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 4.20am.

Cafodd tri ambiwlans, cerbyd ymateb yn gyflym, tîm achub mynydd a hofrennydd o Ganolfan Awyrlu Chivenor eu galw.

Sawl anaf

Cyrhaeddodd diffoddwyr o Dreorci, Tonypandy, Merthyr, Malpas a'r Barri.

Aed â'r fenyw gafodd sawl anaf yn yr hofrennydd i Ysbyty Treforys, Abertawe, lle mae mewn cyflwr difrifol.

Aed â'r dyn mewn ambiwlans i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr. Does dim manylion am ei anafiadau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol