Cylchfan: Anafiadau difrifol yn Ewlo
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi i ddyn gael anafiadau difrifol ger cylchfan yn oriau mân y bore.
Dywedodd yr heddlu fod y dyn lleol 22 oed wedi bod mewn damwain wrth gyffordd yr A494 a'r A5125 ger Gwesty Parc Dewi Sant yn Ewlo, Sir y Fflint.
Roedd hyn ychydig cyn 12.45am ac mae'r dyn yn Ysbyty Walton, Lerpwl.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio Heddlu'r Gogledd ar 101.