Cyngor Sir Ddinbych o dan y lach am ddarparu iPads
- Cyhoeddwyd

Mae un o gynghorau sir y gogledd wedi cael ei feirniadu am wario miloedd o bunnau ar iPads newydd ar gyfer 47 cynghorydd.
Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych bod pob un o'r 47 o gynghorwyr yn mynd i gael iPads yn hytrach na'r gliniaduron traddodiadol "er mwyn ceisio gwneud gwell defnydd o dechnoleg fodern o fewn y Cyngor ac i annog ffyrdd mwy electronig o weithio".
Rhagwelir y bydd hyn yn golygu cynilion "o hyd at £50,000".
Credir y bydd yr iPads yn costio o leiaf £16,000.
Ond dywedodd llefarydd ar ran Cynghrair y Trethdalwyr: "Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gywir i geisio lleihau eu defnydd o bapur.
"Ond nid yr ateb yw gwario degau o filoedd o bunnau ar iPads gyda gobaith annelwig o arbed £50,000.
"Mae hyn yn edrych fel arbrawf drud ac fe ddylid fod wedi rhoi cynnig arni ar raddfa lai i ddechrau i weld a yw'n llwyddiannus."
'Symud ymlaen'
Ond yn ôl Mohammed Mehmet, Prif Weithredwr Sir Ddinbych: "Mae angen i ni fel sefydliad gynnwys technoleg newydd i helpu i symud y cyngor ymlaen.
"Mae yna fanteision aruthrol i gynghorwyr o'r ffordd newydd yma o weithio.
"Fe fyddan nhw'n gallu cyrchu'r safle modern.gov gyda'u iPads, cyrchu agendas a phapurau'r Cyngor dim ond wrth bwyso botwm a darllen am faterion mwyaf y dydd, ble bynnag y byddan nhw.
"Fe allan nhw gyrchu e-byst ac fe allan nhw hyd yn oed gymryd ffotograffau, ac felly roi darlun cliriach, yn llythrennol, i swyddogion mewn adrannau o unrhyw broblemau sydd allan yn y cymunedau."
Ychwanegodd Cara Williams, Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid Sir Ddinbych: "Sir Ddinbych yw'r Cyngor cyntaf yn y rhanbarth i fod yn buddsoddi fel hyn.
"Mae'n amser da i hyn ddigwydd gyda Chyngor newydd.
"Fe allwn fanteisio'n llawn ar y buddion ac uchafu'r arbedion cost o'r cychwyn."
Straeon perthnasol
- 14 Mawrth 2012
- 23 Ionawr 2012
- 5 Tachwedd 2007
- 8 Tachwedd 2007