Dau gyngor yn cyhoeddi cabinet

  • Cyhoeddwyd
Swyddfeydd Cyngor Sir BenfroFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Swyddfeydd Cyngor Sir Benfro

Y Cynghorydd Jamie Adams o ardal Hwlffordd yw arweinydd Cyngor Sir Benfro.

Mae'r ffermwr llaeth 43 oed yn olynu John Davies.

Cafodd ei ethol am y tro cynta yn 2004 i gynrychioli ward Camrose.

Diogelwch

Y garfan Annibynnol sy'n rheoli'r cyngor ac mae'r cabinet o 10 yn cynnwys un cynghorydd Llafur, Sue Perkins.

Mae'n un o bedwar aelod newydd yn y cabinet a hi fydd yn gyfrifol am diogelwch a gwasanaethau plant.

Y ddau ddirprwy arweinydd yw'r Cynghorydd Rob Lewis a'r Cynghorydd Huw George.

Yn y cyfamser mae arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Kevin Madge, wedi cyhoeddi enwau 10 aelod y bwrdd gweithredol.

Mae'r sir dan reolaeth clymblaid Llafur, 23 o aelodau, a chynghorwyr Annibynnol, 22 o aelodau.

Bydd y bwrdd yn cynnwys y cyn-arweinydd Meryl Gravell sydd â chyfrifoldeb am adfywio a hamdden.

Materion gwledig

Mae pum aelod Llafur a phump o aelodau Annibynnol ar y cabient.

Am y tro cynta mae gan un o aelodau'r bwrdd bortffolio materion gwledig.

Y ddau ddirprwy arweinydd yw Tegwen Devichand a Pam Palmer.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol