Haneru nifer y trenau cyflym gan gael gwared ar y trên Gerallt Gymro

  • Cyhoeddwyd
trênFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Plaid Cymru bod y Llywodraeth Lafur yn israddio gwasanaeth pwysig

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw'n haneru nifer y trenau cyflym uniongyrchol y dydd rhwng Caergybi a Chaerdydd o fis Medi o ddau i un.

Bydd hynny'n arbed £500,000 y flwyddyn.

Mae cwmni trenau Arriva yn dweud na fydd cwsmeriaid ar eu colled drwy gael gwared ar y trên Gerallt Gymro.

Bydd y gwasanaeth cyflym newydd yn aros yn Y Fflint a Wrecsam.

Clymblaid

Sefydlwyd y gwasanaeth Gerallt Gymro gan Llywodraeth Glymblaid Llafur-Plaid Cymru.

Dywedodd Plaid Cymru bod y Llywodraeth Lafur yn israddio gwasanaeth pwysig.

Ond yn ôl y Gweinidog Trafnidiaeth Carl Sargeant: "Bydd y gwasanaeth cyflym hwn, a fydd yn cadw elfennau gorau'r Gerallt Gymro, yn costio llai i drethdalwyr ac yn darparu mwy o amser yng Nghaerdydd ar gyfer pobol fusnes a siopwyr."

Bydd y trên yn gadael Caergybi am 5:32am, yn cyrraedd Caerdydd am 9:58am, ac yn dychwelyd o Gaerdydd am 6:18pm.

Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth yn gadael Caergybi am 7.51am, yn cyrraedd Caerdydd am 12.08pm ac yn dychwelyd o Gaerdydd am 6.18pm a chyrraedd Caergybi am 10.34pm.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth, Rhodri Glyn Thomas: "Ar ôl holl waith caled Plaid Cymru mewn llywodraeth i wella cysylltiadau rheilffordd yng Nghymru, mae Llafur yn amlwg yn fwriadol o israddio darpariaeth mewn rhai ardaloedd, yn enwedig y gogledd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol