Heddlu: 631 o honiadau llwgrwobrwyo yn erbyn heddluoedd Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad swyddogol yn rhoi Heddlu Dyfed-Powys ar frig tabl honiadau llwgrwobrwyo o ystyried maint y llu.
Roedd heddluoedd Gwent a Gogledd Cymru hefyd yn y pump uchaf yn ôl ffigyrau Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.
Mae'r Comisiwn yn galw am wybodaeth fwy manwl am y 631 o gwynion gafodd eu gwneud yng Nghymru mewn cyfnod o dair blynedd.
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May.
Mewn rhagair i'r adroddiad dywedodd Y Fonesig Anne Owers, cadeirydd y Comisiwn: "Prif neges yr adroddiad yw nad yw llwgrwobrwyo yn digwydd yn eang, nac yn cael ei ystyried gan y cyhoedd i fod yn digwydd yn eang.
"Ond lle mae o'n bodoli mae'n erydu ymddiriedaeth y cyhoedd, ac mae hynny'n holl bwysig i blismona drwy gydsyniad."
Yng Nghymru a Lloegr roedd yna 8,542 o honiadau o lwgrwobrwyo yn erbyn yr heddlu mewn cyfnod o dair blynedd.
Yn ardal Dyfed-Powys roedd yna 146 o honiadau o'r fath.
Difrifol
Mae gan y llu 2,100 o blismyn sy'n golygu fod yna 69 o gwynion am bob 1,000 - y ffigwr uchaf yng Nghymru a Lloegr.
Y cyfartaledd yw 33 ar gyfer pob 1,000 o blismyn.
Yng Ngwent, sydd â 2,600 o blismyn, roedd 53 o gwynion ar gyfer pob 1,000 o blismyn.
Roedd 51 o gwynion ar gyfer pob 1,000 o blismyn yng Ngogledd Cymru.
Y ffigwr ar gyfer Heddlu'r De yw 38 ar gyfer pob 1,000 o blismyn.
O'r holl gwynion gafodd eu derbyn gan heddluoedd yng Nghymru a Lloegr, dim ond 837 o achosion oedd yn cael eu hystyried yn ddigon difrifol i gael eu hanfon i'r Comisiwn.
Yn ardal Dyfed-Powys, o'r 146 o gwynion, dim ond 16 cafodd eu hanfon ymlaen i'r Comisiwn.
Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd llefarydd ar ran Dyfed-Powys: "Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio'n flaengar i rwystro llwgrwobrwyo.
"Lle mae honiadau o hyn, mae hynny'n cael ei ymchwilio'n fanwl ac yn broffesiynol.
"Ar hyn o bryd rydym yn arolygu ein polisïau i gydfynd gydag argymhellion cenedlaethol."
Diduedd
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod 90% o'r achosion gafodd eu cyfeirio at y Comisiwn yn ymwneud â phethau fel rhyddhau tystiolaeth yn amhriodol, anghysondebau mewn tystiolaeth neu anghysonderau wrth weithredu.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: "O ran achosion o honiadau o lwgrwobrwyo, bydd natur a difrifoldeb yr honiad yn penderfynu a yw'n cwrdd â'r angen i'w hanfon i'r Comisiwn - mae'r safonau hynny wedi eu gosod gan ganllawiau cenedlaethol.
"Ond hyd yn oed os nad oes angen ei hanfon i'r Comisiwn, bydd pob honiad yn cael eu hymchwilio yn effeithiol ac yn ddiduedd gan ein hadran safonau proffesiynol."
Gwnaed cais i Heddlu'r Gogledd a Heddlu'r De am ymateb.
Straeon perthnasol
- 21 Mai 2012
- 4 Mai 2012