Gyrrwr o Gymru yn pledio'n ddieuog
- Cyhoeddwyd

Safle'r ddamwain ar Ragfyr 12, 2010
Mae gyrrwr bws o Gymru wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth dyn drwy yrru'n beryglus ar draffordd yr M5.
Plediodd Daniel Parr, 24, o'r Fenni yn ddieuog i'r cyhuddiad yn Llys y Goron Caerwrangon.
Honnir bod Mr Parr yn gyrru Megabus o Gaerdydd i Leeds mewn modd peryglus ger Tewkesbury pan ddigwyddodd damwain ar Ragfyr 12, 2010.
Mae wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth Raymond Vaughan drwy yrru'n beryglus.
Ar y pryd dywedodd yr heddlu fod y bws, lori fawr a dau gar yn y ddamwain.
Roedd Mr Vaughan, 30 oed, tad i ddau o Birmingham, yn gyrru un o'r ddau gar.
Bydd Mr Parr yn ailymddangos yn y llys ar Fehefin 25.