Cyfarwyddwr: Achos dynladdiad ar ôl marwolaeth merch dair oed

  • Cyhoeddwyd
Meg BurgessFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Meg Burgess yng Ngorffennaf 2008

Ym Medi bydd achos cyfarwyddwr cwmni o Fae Cinmel, Sir Conwy, sy'n wynebu cyhuddiad o ddynladdiad ar ôl i wal gwympo ar ferch dair oed.

Bu farw Meg Burgess yng Ngorffennaf 2008 ar ôl i wal gwympo pan oedd yn cerdded gyda'i mam yng Ngallt Melyd ger Prestatyn

Mae George Collier, 49 oed yn wynebu cyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod dwys.

Fe yw cyfarwyddwr cwmni Parcol Developments.

Honnwyd mai'r cwmni gododd y wal.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes QC y byddai'r achos yn dechrau ar Fedi 17.