Galeri newydd yn agor yng Nghaerffili

Galeri yn cael ei pharatoi Image copyright Yr Arteri
Image caption Mae'r galeri newydd yng nghanol tref Caerffili

Mae galeri newydd wedi agor yn nhref Caerffili gyda'r trefnwyr yn honni mai dyma'r unig un o'i fath yn y sir.

Bydd Yr Arteri yn rhan o ganolfan mwy gyda chynlluniau ar gyfer gweithdai a siop goffi.

Dywedodd cyfarwyddwr artistig y galeri, Jan Pennell: "Fel rhywun sydd yn frwdfrydig dros y celfyddydau ac yn byw yn Sir Caerffili dwi'n gwybod bod llawer o ddiddordeb mewn celfyddyd yma ac roeddwn yn teimlo bod yna wir alw am galeri.

"Er bod yna dros 171,000 o bobl yn byw yn y sir dyma fydd y galeri cyntaf."

Mae'r galeri yn cael ei redeg fel menter gymunedol.

Bydd yr arddangosfa gyntaf yn dangos gwaith gan rai o artistiaid mwyaf blaengar Cymru, gan gynnwys Brendan Burns, Iwan Bala, Osi Rhys Osmond, Chris Griffin a'r diweddar William Brown, yn ogystal â gwaith gan sawl artist newydd.

Bydd cyfres o arddangosfeydd, darlithoedd, gweithdai a digwyddiadau eraill drwy'r flwyddyn.