Ffens drydan i warchod adar prin yn Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
Môr-wennol bychanFfynhonnell y llun, Denbighshire council
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r adar yn nythu yng Ngronant ger Prestatyn

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi codi ffens drydan milltir a hanner o hyd er mwyn amddiffyn haid o fôr-wenoliaid bychain.

Mae'r adar prin yn ymgartrefu ar arfordir Cymru am dair mis yn ystod y flwyddyn.

Pob mis Mai mae'r adar yn hedfan i Ronant, ger Prestatyn, o'u cartref yng ngorllewin Affrica.

Dyma'r unig haid o fôr-wenoliaid bychain yng Nghymru ac maent yn bridio ar lan y môr cyn mudo'n ôl i'w cartref ym mis Medi.

Cododd Cyngor Sir Ddinbych, gyda chymorth gwirfoddolwyr, y ffens drydan er mwyn ceisio cynyddu nifer yr adar.

Mae'r ffens yn cael ei drydanu gyda'r nos er mwyn amddiffyn yr adar rhag llwynogod.

Mae wardeniaid hefyd yn patrolio'r ardal bob diwrnod er mwyn amddiffyn yr adar a'u cywion rhag ysglyfaethwyr fel llwynogod a chudyllod coch.

'Ofnadwy o bwysig'

Dywedodd Garry Davies, Swyddog Cefnwlad, bod y gwaith yn "hynod bwysig".

"Dyma'r haid olaf yng Nghymru felly mae'n ofnadwy o bwysig ac mae'n rhaid gwneud ymdrech," meddai Mr Davies.

"Maen nhw'n dweud dylech chi ddim ymyrryd â natur ond dydyn ni ddim yn ymyrryd, rydym yn estyn help llaw i'r adar.

"Hoffen ni ddatblygu'r haid fel bod nifer yr adar yn dod yn ormod i'r ardal yma a bod rai ohonyn nhw yn gorfod nythu mewn ardal arall.

"Ar hyn o bryd mae gennym ein wyau i gyd yn yr un fasged."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol