Y seren gymnasteg, Beth Tweddle, yn dod i Ruthun
- Cyhoeddwyd

Mae'r fabolgampwraig Beth Tweddle yn ymweld â chlwb gymnasteg yn Sir Dinbych ddydd Sul.
Mae Tweddle wedi ennill pencampwriaeth gymnasteg y byd tair gwaith ac wedi cystadlu yn y Gemau Olympaidd ddwywaith.
Eleni bydd yn cynrychioli Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Llundain.
Mae hi hefyd wedi cael ei hanrhydeddu gyda'r MBE.
Yn ystod ei hymweliad â Rhuthun bydd Tweddle yn gwylio pobl ifanc y clwb yn gwneud sioe gymnasteg ac yn cynnal gweithdy.
Dywedodd prif hyfforddwr y clwb, Tamsin Jones, bod y bobl ifanc yn gynhyrfus iawn.
"Mae'n ddiwrnod eithaf mawr i ni," meddai Ms Jones.
"Mi wnes i gwrdd â Beth mewn cynhadledd a gofynnais iddi ddod draw i wneud gweithdy gyda'r plant.
"Dwi'n meddwl mai dyma'r tro cyntaf iddi ymweld â chlwb yng Nghymru."
Bydd Tweddle hefyd yn cyflwyno tystysgrifau i 15 person ifanc sydd wedi cwblhau cwrs sydd yn eu galluogi i hyfforddi pobl ifainc eraill yn y clwb.
Straeon perthnasol
- 12 Chwefror 2009