Cabinet Powys yn gwrthod codiad cyflog
- Cyhoeddwyd

Mae arweinwyr Cyngor Powys wedi dweud eu bod wedi gwrthod codiad cyflog ac arbed mwy na £56,000 i'r awdurdod lleol.
Penderfynodd 10 aelod o'r cabinet dderbyn lwfans blynyddol sy'n is na'r un gafodd ei osod gan y weinyddiaeth cyn etholiadau lleol mis Mai.
Byddai lwfans arweinydd newydd y cyngor, David Jones, wedi codi o £34,500 i £47,500.
Dywedodd y cabinet fod y cynnydd wedi ei argymell gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Annibynnol
Mae'r panel, sydd wedi bod yn gweithredu ers 2008, yn annibynnol ar lywodraeth ganolog a llywodraeth leol ac yn penderfynu maint y taliadau y mae awdurdodau lleol yn gallu neu'n gorfod cynnig i'w haelodau.
Bydd naw aelod y cabinet yn derbyn £24,500 yr un bob blwyddyn yn lle'r £28,780 gafodd ei awgrymu gan y panel.
Dywedodd datganiad y cabinet y byddai'r penderfyniad yn arbed £56,200 i'r cyngor.
Mae arweinydd y cyngor, Mr Jones, wedi dweud: "Rwy'n falch fod y cabinet fel unigolion wedi penderfynu derbyn cyflog sy'n llawer llai na'r hyn mae'r panel wedi ei argymell.
"Rwyf i a'r cabinet yn benderfynol o ddangos y byddwn ni'n arwain y ffordd."
Cynyddu
Daw'r datganiad flwyddyn wedi i'r weinyddiaeth flaenorol bleidleisio i gynyddu eu lwfans blynyddol pan newidiodd y cyngor eu system gweithredu o fwrdd yn cynnwys 15 cynghorydd i gabinet yn cynnwys 10 aelod.
Cafodd y penderfyniad i rannu'r arian oedd wedi ei glustnodi i 15 cynghorydd ymysg 10 aelod cabinet ei feirniadu.
Mae gweinyddiaeth newydd yn rheoli'r cyngor wedi'r etholiadau lleol.
Mae'r cabinet yn cynnwys saith aelod Grŵp Annibynnol y Siroedd a thri aelod anymochrol.
Straeon perthnasol
- 23 Mai 2012
- 24 Mai 2012
- 17 Mai 2012