Morgannwg heb yr un fuddugoliaeth

  • Cyhoeddwyd
Logo MorgannwgFfynhonnell y llun, Other

Mae cricedwyr Morgannwg yn parhau heb yr un fuddugoliaeth y tymor hwn.

Er iddi edrych yn addawol ar un adeg mi gafodd yr ymwelwyr eu bowlio allan am 231 yn eu hail fatiad gan olygu mai Hampshire aeth â hi o 31 rhediad yn Southampton.

Morgannwg sydd ar waelod ail adran Pencampwriaeth y Siroedd.

Pencampwriaeth y Siroedd: Adran 2

Swydd Hampshire v. Morgannwg - Diwrnod olaf

Swydd Hampshire: (batiad cyntaf) = 316

(ail fatiad) = 273

Morgannwg: (batiad cyntaf) = 327

(ail fatiad) = 231

Hampshire 22pwynt, Morgannwg 6phwynt

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol