Cwmni: 146 o swyddi yn y fantol ym Merthyr Tudful

Chwistrellydd aerosol
Image caption Y nod yw symud y gwaith cynhyrchu i ffatri arall yn Sir Nottingham

Mae bron 150 o swyddi ym Merthyr Tudful yn y fantol wedi i gwmni pecynnu gyhoeddi eu bod yn mynd i gau ffatri.

Dywedodd cwmni Ardagh eu bod wedi dechrau cyfnod ymgynghori oherwydd bwriad i gau'r ffatri ym Mharc y Ddraig, Abercannaid.

Y rheswm yw ail-strwythuro.

Y bwriad yw trosglwyddo cynhyrchu chwistrellau aerosol i ffatri arall yn Sir Nottingham.

'Cefnogi'

Yn ôl y cwmni, bydd hyn yn effeithio ar 146 o weithwyr ym Merthyr Tudful.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Bydd y cwmni yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi'r gweithlu yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Os yw swyddi'n cael eu colli fe fyddwn yn adolygu cyfleoedd cyflogi newydd yn ein safleoedd cynhyrchu eraill."

Mae cwmni Ardagh yn cyflogi mwy na 14,000 mewn 88 ffatri mewn 25 gwlad.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.