Corff ger Llyn Efyrnwy: 'Ddim yn amheus'

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio ar ôl dod o hyd i gorff dyn mewn llyn bach ger Llyn Efyrnwy ym Mhowys wedi cadarnhau nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Cafodd y corff ei ddarganfod brynhawn Mercher yn rhaeadr Rhiwargor.

Cafiodd archwiliad post mortem ei gynnal ddydd Iau.

Yn y cyfamser, mae ymchwiliad Heddlu Dyfed-Powys yn parhau.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.