Parlys ymennydd: Iawndal o £2m i ferch naw oed
- Cyhoeddwyd

Mae teulu merch naw oed o Gasnewydd wedi cael iawndal gwerth miliynau o bunnoedd ac ymddiheuriad yn yr Uchel Lys yn Llundain.
Cafodd Harriet Riley, nad yw'n gallu siarad na cherdded, barlys yr ymennydd ar ôl i'w hymennydd fod heb ocsigen pan gafodd ei geni yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd, ym Mehefin 2002.
Wedi'r achos dywedodd ei mam, Louise Riley, 39 oed, fod gan ei merch gymeriad cryf.
"Mae ei gwên yn goleuo'r ystafell," meddai tad Harriet, Christopher, sy'n golffiwr proffesiynol.
'Ymrwymiad anhygoel'
Roedd y rhieni yn y llys wrth i Mr Ustus Walker gymeradwyo setliad Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan fydd yn talu am ofynion gofal Harriet.
Mae'r setliad yn cynnwys swm o £2 filiwn a thaliadau mynegrifedig a di-dreth o £325,000 y flwyddyn "am weddill ei bywyd," meddai bargyfreithwr y teulu, Philip Havers QC.
Talodd Paul Rees QC, ar ran y bwrdd iechyd, deyrnged i rieni Harriet oherwydd eu "hymrwymiad anhygoel i'w merch yn ystod y degawd diwethaf".
Ymddiheurodd yn gyhoeddus i'r teulu ar ran y bwrdd iechyd am "fethiannau" yn ystod yr enedigaeth.
"Mae'r bwrdd yn derbyn nad oedd agweddau ar y gofal gafodd eu darparu o'r safon ofynnol", meddai wrth y barnwr.
Ychwanegodd: "Maen nhw'n derbyn y dylai fod wedi cael ei geni'n gynharach."
'Aberthau mawr'
Ond pwysleisiodd fod yna "wahaniaethau arwyddocaol" yn achos "agweddau eraill y dadlau am atebolrwydd."
Talodd Mr Ustus Walker deyrnged i Harriet am "ddygymod yn ei ffordd ei hun â phopeth roedd hi wedi gorfod dioddef".
Canmolodd ei rhieni oherwydd yr "aberthau mawr i sicrhau bod ganddi'r ansawdd bywyd gorau posib".
Wedi'r gwrandawiad dywedodd Mr Riley nad oedd ei merch yn gallu symud a'i bod yn "dibynnu'n llwyr am ei holl ofal".
Roedd modd ei deall, meddai, drwy gyfrwng "gwên neu ochenaid" ac roedd hi'n hoffi cerddoriaeth, gan gynnwys Take That.
Dywedodd Mr a Mrs Riley, sy'n rhieni dau o blant sy'n iau na Harriet, y byddai'r iawndal yn "gwneud gwahaniaeth mawr".
Straeon perthnasol
- 25 Ionawr 2010
- 13 Mawrth 2007
- 8 Medi 2009