Ail-gyflwyno cais cynllunio fferm wynt Mynydd y Gwair
- Cyhoeddwyd

Bydd cynlluniau dadleuol i adeiladu fferm wynt ar Fynydd y Gwair ger Abertawe yn cael eu hailwampio cyn iddynt gael eu hail-gyflwyno fel cais cynllunio yn ddiweddarach eleni.
Dywed cwmni RWE npower Renewables eu bod yn bwriadu codi 16 tyrbin yn hytrach na'r 19 tyrbin yn y cais gwreiddiol yn dilyn pryderon ynghylch effaith ar ardal o fawn.
Yn ôl rheolwr y prosiect, Gwenllian Elias, roedd ymdrechion arwyddocaol wedi eu cyflawni i ateb pryderon cynllunio a chymunedol gafodd eu codi yn dilyn y cais cynllunio gwreiddiol y llynedd.
Ychwanegodd fod y cwmni'n argyhoeddedig fod y safle'n un da ar gyfer fferm wynt.
Ymgynghoriad cyhoeddus
"Mae'r fferm wynt wedi'i chynllunio'n dda ac mae hi mewn safle anghysbell gyda ffynhonnell wych o wynt y tu mewn i ardal TAN 8 dynodedig," meddai.
"Cafodd hyn oll eu cydnabod yn ystod yr Ymchwiliad Cyhoeddus gafodd ei gynnal yn 2011."
Bu'n rhaid i'r cwmni ail-feddwl am y cynllun ym mis Mawrth eleni wedi i Farnwyr y Llys Apêl yn Llundain ddymchwel penderfyniad cynharach i gymeradwyo'r cynllun i godi 19 tyrbin.
Petai wedi cael sêl bendith, fferm wynt Mynydd y Gwair ger Felindre fyddai'r un dalaf yng Nghymru.
Enillodd y cwmni adolygiad barnwrol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod y cais cynllunio ar gyfer y fferm wynt 19 tyrbin hyd at 127 metr o uchder ar dir comin yn Abertawe ym mis Gorffennaf y llynedd.
Ym mis Chwefror 2011 fe wnaeth Gweinidog Amgylchedd Cymru ar y pryd, Jane Davidson, wrthod y cais cynllunio.
Mae tyrbinau gwynt wedi mwy na dyblu mewn uchder ers i'r cynta' gael ei godi yng Nghymru ym 1992.
Cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod haf 2010 i apêl cwmni RWE npower yn erbyn Cyngor Abertawe, oedd wedi penderfynu gwrthod y cais cynllunio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2011
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2011