Croesawu cydchwaraewyr Gwyddelig

  • Cyhoeddwyd
pêl-droed
Disgrifiad o’r llun,
Gobaith y trefnwyr yw y bydd y cynllun yn ehangu ledled gogledd-orllewin Cymru

Mae pêl-droedwyr gogledd Cymru'n estyn croeso i'w cydchwaraewyr Gwyddelig ddydd Sadwrn er mwyn dathlu prosiect sy'n helpu pobl ifanc i daclo problemau allgau cymdeithasol ac anweithgarwch economaidd.

Fel rhan o brosiect Futsal sy'n werth £1.5 miliwn, bydd tua 75 o ddynion a menywod ifanc o'r Iwerddon yn ymweld â Bangor er mwyn chwarae yn erbyn timau lleol a myfyrwyr o ganolfan Futsal gyntaf Cymru, a agorodd yn Llangefni, Sir Fôn yn yr hydref llynedd.

Gobaith y trefnwyr yw y bydd y cynllun yn ehangu ledled gogledd-orllewin Cymru yn ystod y flwyddyn nesaf.

Bydd y gemau yn cychwyn am 3pm ar gaeau Treborth Prifysgol Bangor.

'Cyfle gwych'

Yn ôl swyddog prosiect Futsal Gogledd Cymru, Tony Maguire, mae'r prosiect eisoes wedi helpu nifer o fyfyrwyr yn yr ardal i ddod o hyd i waith.

Dywedodd Tony: "Mae ambell un o'r bechgyn wedi gorfod rhoi'r gorau iddi gan eu bod wedi dod o hyd i swyddi tra'u bod ar y cynllun.

"Ac mae dau ifanc arall newydd ennill cymhwyster hyfforddi ac yn bwriadu cychwyn hyfforddi chwaraewyr eraill eu hunain.

"Rydyn ni'n falch iawn o groesawu'r chwaraewyr Gwyddelig i Gymru. Mae'n gyfle gwych i ddathlu popeth a gyflawnwyd hyd yma ac i godi proffil ein prosiect."

Pump bob ochr

Mae Futsal yn fersiwn o bêl-droed pump bob ochr y mae'r cynllun yn ei ddefnyddio i ennyn diddordeb pobl ifanc.

Mae'r rhaglen yn cael ei harwain gan Gymdeithas Bêl-droed Iwerddon mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru gyda £1m o gefnogaeth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Yn ogystal â pherffeithio sgiliau pêl-droed a hyfforddi, mae'r cwrs 12 wythnos yn cwmpasu pynciau fel llythrennedd a rhifedd, Cymorth Cyntaf, amddiffyn plant, paratoi at waith, bwyta'n iach a llunio CV.

Cymwysterau

Dywedodd Tony: "Rydyn ni'n gwneud yn sicr eu bod yn gwneud pethau sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Mae popeth sy'n cael ei wneud, boed yn rhifedd neu beth bynnag, ar thema pêl-droed.

"Rydyn ni'n defnyddio pêl-droed fel arf i ddenu pobl ifanc. Rydyn ni am wella'u siawns o gael eu cyflogi.

"Erbyn diwedd y cwrs bydd y myfyrwyr wedi casglu naw neu 10 o gymwysterau."

Wedi mwynhau llwyddiant cychwynnol yn Llangefni, mae'r cynllun bellach yn barod i ehangu ledled gogledd-orllewin Cymru. Bydd dwy ganolfan newydd yn agor ym mis Medi, ac mae bwriad agor dwy arall y flwyddyn nesaf, gan ddod â chyfanswm o bum canolfan i Gymru.