Ymchwilio i achos tân
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Achoswyd difrod sylweddol i'r tŷ, ond doedd neb ynddo
Mae'r gwasanaeth tân yn ymchwilio i achos tân mawr mewn tŷ yng Ngwynedd ddydd Gwener.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i Bontrug ger Caernarfon am 12.27pm.
Ar un cyfnod roedd pum injan dân yn bresennol, gyda chriwiau o Gaernarfon, Llanberis, Bangor a Phorthaethwy ar y safle.
Mae'r gwasanaeth tân wedi dweud nad oedd neb yn y tŷ, a'u bod wedi cael eu galw gan gymydog.
Maen nhw eisoes wedi dechrau ymchwilio i achos y tân.