Damwain: Menyw 31 oed wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Hofrennydd Canolfan Awyrlu Chivenor
Disgrifiad o’r llun,
Aeth hofrennydd â'r fenyw i'r ysbyty.

Mae menyw 31 oed wedi marw yn yr ysbyty ddydd Gwener wedi i fan wen Daihatsu Hijet gwympo 250 metr i lawr ceunant yn ymyl Mynydd y Rhigos ger Treherbert ddydd Iau.

Aed â'r fenyw, o bentref Dowlais, mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys, Abertawe, lle bu farw'n ddiweddarach.

Aed â dyn mewn ambiwlans i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr, ond nid yw ei fywyd yn y fantol.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn apelio am dystion.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 4.20am.

Cafodd tri ambiwlans, cerbyd ymateb yn gyflym, tîm achub mynydd a hofrennydd o Ganolfan Awyrlu Chivenor eu galw.

Cyrhaeddodd diffoddwyr o Dreorci, Tonypandy, Merthyr, Malpas a'r Barri.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol