Gwrthdrawiad: Un person wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Map o#r ardal

Mae menyw wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar ffordd yr A494 ger y Bala.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod menyw yn ei hugeiniau o ardal De Gwynedd yn un o dri pherson oedd yn teithio mewn car Ford Fiesta lliw arian fu mewn gwrthdrawiad ar y ffordd rhyw ddwy filltir o'r Bala i gyfeiriad Dolgellau.

Cafodd dyn oedd yn gyrru'r car Fiesta a menyw arall oedd ynddo eu cludo i Ysbyty Maelor Wrecsam gydag anafiadau difrifol.

Ychwanegodd yr heddlu bod gyrrwr car arall - Vauxhall Corsa - wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Roedd y ddau gar yn teithio i'r un cyfeiriad, ond credir bod car y fenyw a fu farw wedi troi drosodd cyn glanio ar ei do.

Mae'r heddlu wedi apelio am dystion i'r gwrthdrawiad ddigwyddodd am tua 7:25pm nos Wener.

Cafodd y Gwasanaeth Tân eu galw i'r digwyddiad hefyd ac mae ffordd yr A494 ar gau ac yn debyg o aros felly am rai oriau.