Mewn lluniau: Ail ddiwrnod taith y Fflam
- Cyhoeddwyd

Yr actor Matt Smith oedd y cyntaf i gario'r fflam ar ail ddiwrnod ei thaith drwy Gymru ger yr Eglwys Norwyeg yng Nghaerdydd

Matt Smith yn trosglwyddo'r fflam i ofal Llio Roberts wrth y grisiau i'r Senedd
Llio Roberts yn pasio'r fflam i Zak Lee Green y tu allan i Ganolfan y Mileniwm
Daeth torfeydd mawr i weld y fflam yn teithio rhwng Caerffili a Phontypridd
Bronwen Davies fu'n dal y ffagl ger Castell Caerffili.
Cafodd y cyflwynydd Gethin Jones ei gyfle i garo'r fflam ddydd Sadwrn
Alun Davies oedd yn cario'r fflam rhwng Treherbert a Bro Ogwr
Torfeydd yn gwylio'r sgrin fawr yn Sgwar y Castell Abertawe wrth ddisgwyl i'r fflam gyrraedd