Mewn lluniau: Trydydd diwrnod taith y Fflam
- Cyhoeddwyd

Philip Richards gafodd y cyfle i gludo'r Fflam Olympaidd i Gastell Ystumllwynarth ddydd Sul wrth iddi deithio o Abertawe i Aberystwyth

Roedd rhai miloedd o bobl wedi dod allan i weld y Fflam yn Y Mwmbwls
Philip Richards (chwith) yn trosglwyddo'r Fflam i Paul Adams yn Y Mwmbwls
Paul Adams gafodd y cyfle i gludo'r Fflam ar drên arbennig ar hyd arfordir Y Mwmbwls
Henry Foulkes sy'n cludo'r Fflam drwy Lanelli lle'r oedd rhai cannoedd o bobl wedi ymgasglu i'w weld
Margaret Harries yn cludo'r Fflam rhwng Llanelli a Chydweli
Y cannoedd allan ar y stryd rhwng Llanelli a Phorth Tywyn i groesawu'r Fflam
Roedd un o fascots Y Gemau Olympaidd, Wenlock, i'w weld wrth i'r Fflam deithio drwy Llanelli ac am Gydweli
Tim Williams yn amlwg yn hapus iawn o fod yn cael cario'r Fflam drwy Gydweli
Cusan rhwng y ddwy ffagl y tu allan i Gastell Cydweli wrth i'r Fflam deithio o Abertawe i Aberystwyth
Eric Mathias yn cludo'r Fflam drwy Hwlffordd
Yr olaf i gludo'r Fflam cyn cinio yn Hwlffordd oedd Merrilee Phillips
Y bridiwr ceffylau Eric Davies ar ben ei gob Cymreig Maesmynach Angerdd yn Aberaeron
Kyle Thomson, 16, yn cynnau'r pair yn Aberystwyth