Rownd derfynol y Pro 12: Leinster 30-31 Gweilch

Roedd dau gais gan Shane Williams, wrth chwarae ei gêm olaf i'r Gweilch, yn allweddol wrth sicrhau pencampwriaeth y Pro 12 i'r Gweilch yn Nulyn ddydd Sul.

Daeth ei ail gais dri munud cyn y diwedd, gyda Dan Biggar yn cadw ei bwyll i gicio'r trosiad.

Felly llwyddodd Y Gweilch i atal Leinster rhag ennill y dwbl y tymor hwn ar ôl i'r tîm cartref ennill Cwpan Heineken yn erbyn Ulster yr wythnos diwethaf.

Roedd y Gweilch wedi ennill eu chwe gêm Pro 12 diwethaf gan gynnwys buddugoliaeth o 23-22 yn erbyn Leinster, ond bu'n rhaid iddyn nhw frwydro nôl o fod 17-9 a 30-21 i lawr i ennill y gêm hon.

Cafwyd ceisiau gan Sean Cronin ac Isa Nacewa (ddwywaith) i Leinster.

Croesodd Ashley Beck i'r Gweilch gyda Shane Williams yn ychwanegu ei ddau gais.

Ciciodd Jonathan Sexton 15 pwynt, gyda Biggar yn casglu 16 pwynt, gan gynnwys y ddau a seliodd y fuddugoliaeth.

'Mor falch'

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Rhys Webb yn ceisio bylchu gyda Jonathan Sexton yn ceisio ei atal

"Roedd hon yn gêm anferthol, yn ddigwyddiad enfawr i'r Gweilch a dwi mor falch o'r chwaraewyr," meddai Hyfforddwr Y Gweilch, Steve Tandy.

"Mae Leinster yn dîm gwych.

"Mae'r hyn y maen nhw wedi ei gyflawni yn Ewrop dros y pedair blynedd diwethaf yn dweud y cyfan.

"Roedd natur eu gêm yn erbyn Ulster y penwythnos diwethaf yn golygu yr o'n nhw'n llawn hyder heddiw.

"Roedd chwarae o flaen eu cefnogwyr eu hunain hefyd yn fonws iddyn nhw ac wedi gwneud y dasg llawer anoddach i ni.

"Mae hon yn fuddugoliaeth wych".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.