Mechnïaeth i yrrwr wedi i ddynes farw mewn gwrthdrawiad ger Y Bala

  • Cyhoeddwyd
Map o'r ardal
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw un ddynes yn y ddamwain

Mae gyrrwr car gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus wedi damwain yng Ngwynedd ddydd Gwener wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Bu farw dynes yn ei 20au wedi'r digwyddiad rhwng dau gar ar yr A494, tua dwy filltir y tu allan i'r Bala i gyfeiriad Dolgellau.

Cafodd gyrrwr y car a theithiwr arall oedd yn y car lle bu farw'r ddynes eu hanafu yn ddifrifol.

Roedd y tri yn teithio mewn car arian Ford Fiesta wnaeth droi drosodd a glanio ar y to.

Roedd y dyn oedd yn gyrru'r car arall yn gyrru car arian Vauxhall Corsa.

Mae disgwyl iddo ymddangos o flaen yr heddlu yng ngorsaf Dolgellau ar Orffennaf 6 ar ôl cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y ddau gerbyd yn teithio i'r un cyfeiriad.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad tua 7.25pm nos Wener.

Bu'n rhaid cau'r ffordd am rai oriau wedi'r digwyddiad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol