Sigurdsson: Abertawe'n cytuno ar ffi
- Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru ar ddeall bod Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cytuno ar ffi o ryw £7.2 miliwn gyda chlwb Hoffenheim yn yr Almaen er mwyn arwyddo Gulfi Sigurdsson yn barhaol.
Mae disgwyl y bydd trafodaethau'r wythnos hon i drafod termau personol Sigurdsson.
Daw hyn ar ôl i gadeirydd Clwb Pêl-droed Abertawe, Huw Jenkins, gwrdd wyneb yn wyneb gyda phenaethiaid Hoffenheim.
Bu'r chwaraewr canol cae o Wlad yr Iâ ar fenthyg yn Stadiwm Liberty ers mis Ionawr tan ddiwedd y tymor.
22 oed
Sgoriodd y chwaraewr 22 oed saith o goliau mewn 17 gêm i Abertawe.
Symudodd Sigurdsson i Hoffenheim o Reading - cyn glwb rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers - am £6.5 miliwn yn 2010.
Gwrthododd yr Almaenwyr gynnig gwreiddiol Abertawe o tua £4m, ac roedd y clwb o'r Bundesliga o leiaf am gael eu harian yn ôl am Sigurdsson.
Am eu bod wedi gorffen yn yr 11eg safle yn eu tymor cyntaf yn yr Uwchgynghrair, fe gafodd Abertawe £45.9 miliwn o arian darlledu, felly mae arian ar gael i gryfhau'r garfan.
Dywedodd Sigurdsson ym mis Ebrill y byddai'n hapus i aros gydag Abertawe y tu hwnt i ddiwedd y tymor.
Roedd Mr Jenkins wedi dweud y byddai'n anodd i'r clwb o Gymru ddal eu gafael arno yn barhaol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012