Terfysgaeth: Y Met yn rhyddhau pedwar o Dde Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Llundain wedi dweud na fydd pedwar o ddynion gafodd eu harestio yn ne Cymru ar amheuaeth o fod ag arian i ddibenion terfysgaeth yn cael eu herlyn.

Fe arestiodd Swyddogion Gwrth Derfysgaeth y pedwar mewn cyrchoedd rhwng Chwefror 2 a 3.

Cafodd dau o'r dynion, 34 oed a 45 oed, eu harestio ym Mhontardawe.

Fe arestiwyd dyn 38 oed mewn tŷ yn Abertawe a dyn 37 oed mewn tŷ ym Mhowys.

Aed â'r pedwar i orsaf yr heddlu yn Llundain a'u rhyddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd yr heddlu fod y dynion wedi eu rhyddhau o fechnïaeth yr heddlu ac na fyddai unrhyw gamau cyfreithiol yn eu herbyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol