Enwi'r fenyw fu farw wedi gwrthdrawiad yn Y Bala

  • Cyhoeddwyd
Lona Wyn Jones
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Lona Wyn Jones wedi gwrthdrawiad rhwng dau gar ar Fai 25

Mae'r heddlu wedi enwi'r fenyw fu farw wedi gwrthdrawiad difrifol ar ffordd yr A494 ger y Bala nos Wener.

Bu farw Lona Wyn Jones wedi'r digwyddiad rhwng dau gar tua 7.25pm Mai 25, tua dwy filltir y tu allan i'r Bala i gyfeiriad Dolgellau.

Mae gyrrwr car gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus wedi'r ddamwain wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd gyrrwr y car a theithiwr arall oedd yn y car lle bu farw Ms Jones eu hanafu yn ddifrifol.

Roedd y tri yn teithio mewn car arian Ford Fiesta wnaeth droi drosodd a glanio ar y to.

Roedd y dyn oedd yn gyrru'r car arall yn gyrru car arian Vauxhall Corsa.

Mae disgwyl iddo ymddangos o flaen yr heddlu yng ngorsaf Dolgellau ar Orffennaf 6 eleni.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y ddau gerbyd yn teithio i'r un cyfeiriad.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol