Tri, gan gynnwys tad a mab, yn gwadu llofruddio
- Cyhoeddwyd
Fe ymddangosodd tad a mab yn y llys wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn yn Abertawe.
Mae William Desmond Rogers, 45 oed, a Shaun William Rogers, 24 oed, yn gwadu llofruddio William John Eves mewn tŷ yn ardal Pentyla, Baglan ym mis Chwefror.
Ymddangosodd y ddau yn Llys y Goron Abertawe gyda Paul David Evans, 49 oed, sydd hefyd yn gwadu llofruddio'r dyn 43 oed.
Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo ym Mhentyla ar Chwefror 9.
Cafodd William Rogers, sydd heb gyfeiriad penodol, a Shaun Rogers a Paul Evans, y ddau o Bort Talbot, eu cadw yn y ddalfa tra bod achos yn eu herbyn yn cael ei baratoi.
Fe fyddan nhw'n ymddangos eto yn y llys ar Orffennaf 8 ar gyfer gwrandawiad cyn achos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol