Cwest: 'Methiannau dybryd'
- Cyhoeddwyd

Mae crwner wedi dweud bod yna fethiannau dybryd yn y gofal gafodd mam o Gaerffili wrth roi genedigaeth i'w babi yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Bu farw Noah Tyler yn 10 mis oed wedi iddo gael niwed difrifol i'w ymennydd yn ystod ei enedigaeth.
Mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro.
Wrth gofnodi rheithfarn naratif, dywedodd Crwner Caerdydd Mary Hassell iddo farw o achosion naturiol ond bod esgeulustod yn ffactor.
Dywedodd y byddai'n ysgrifennu at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gofyn iddyn nhw atgoffa staff i ddilyn canllawiau Y Sefydliad dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol a dilyn protocol yr ysbyty ac hyfforddiant sylfaenol.
'Difaru'
Roedd bydwraig, Julie Richards, wedi cyfadde ei bod wedi gwneud "camgymeriadau dybryd" a methu â chymryd camau pan oedd cyfradd curiad calon Noah yn beryglus o uchel.
"Fe fydda i'n difaru beth ddigwyddodd am weddill fy oes," ychwanegodd.
Clywodd y cwest y gallai mam Noah, Colleen Tyler, 31 oed, fod wedi marw yn ystod yr enedigaeth.
Dywedodd y crwner: "Rwy'n bryderus iawn am amgylchiadau marwolaeth Noah.
Yn llai
"Yr hyn sydd wedi fy nharo i yw y gallen ni fod yn delio â dwy farwolaeth yn hytrach nag un heddiw."
Mae'r bwrdd iechyd wedi cyfaddef fod y gofal gafodd Mrs Tyler a Noah yn llai na'r safon a ddisgwylir.
Dywedodd prif weithredwr dros dro'r bwrdd iechyd, Paul Hollard: "Rydym yn cydymdeimlo'n ddiffuant iawn â'r teulu ac yn ymddiheuro.
"Rydym yn gresynu'n fawr at yr hyn ddigwyddodd i Noah a Mrs Tyler ac mae'r achos yn golygu ein bod yn fwy penderfynol o adolygu a gwella ein gwasanaethau yn aml ..."
Diswyddo
Dywedodd eu bod wedi ymchwilio i'r achos yn drylwyr ac wedi cymryd camau pendant, gan gynnwys diswyddo'r fydwraig.
Ar ôl y cwest dywedodd tad Noah, Hywel, ei fod yn gobeithio y byddai newidiadau yn yr ysbyty'n atal rhieni eraill rhag cael yr un hunlle.
Mae Mrs Tyler a'i gŵr newydd gael babi, Joseph, ac yn dwyn achos yn erbyn yr ysbyty ar sail esgeulustod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2012
- Cyhoeddwyd15 Mai 2012