Jones i gyhoeddi adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru

Carwyn Jones in the Senedd Image copyright BBC news grab
Image caption Mae'r Prif Weinidog wedi addo y bydd adroddiad o'r fath yn cael ei gyhoeddi bob blwyddyn

Bydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn cyhoeddi adroddiad blynyddol cyntaf Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach.

Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu Mr Jones yn y gorffennol am beidio cyhoeddi targedau perfformio penodol fel rhan o'i Rhaglen Lywodraethu.

Pwrpas yr adroddiad yw gadael Aelodau'r Cynulliad a'r cyhoedd i gael gwybod beth mae ei weinyddiaeth wedi bod yn ei wneud.

Mae wedi addo y bydd adroddiad o'r fath yn cael ei gyhoeddi yn flynyddol.

Daw'r adroddiad wyth mis ar ôl i'r Rhaglen Lywodraethu gael ei chyhoeddi a blwyddyn ar ôl yr etholiadau cynulliad diwethaf.

Dywedodd Mr Jones fod y rhaglen honno'n rhaglen mapio i'r llywodraeth tan 2016.

Deellir bod yr adroddiad 660 tudalen yn pwysleisio'r fath o ganlyniadau mae'r llywodraeth am eu cael gan gynnwys cymunedau mwy diogel, lleihau tlodi a gwella'r economi.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.