£4.7m i greu canolfan i hybu dylunio i ddiwydiant
- Cyhoeddwyd

Bydd cynllun i sefydlu canolfan rhagoriaeth gwerth £4.7 miliwn yn cael ei lansio'n swyddogol ddydd Mawrth.
Nod y Sefydliad Dylunio Cynaliadwy yw hybu dyfeisgarwch ac arloesed mewn diwydiant yng Nghymru, ac mae'n cael ei lansio yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.
Mae'r Sefydliad yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd, a bydd yn adeiladu ar y cydweithio presennol rhwng y canolfannau dylunio ar y ddau safle i gynnig cyfleoedd ymchwil a datblygu i fusnesau.
Bydd hefyd yn cefnogi datblygiadau mewn busnesau sy'n dibynnu ar ddylunio, yn enwedig ym meysydd ceir a gwydr pensaernïol.
Fe fydd y sefydliad newydd yn creu 40 o swyddi newydd, ac yn cefnogi creu mentrau eraill newydd, ac mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan arian o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Arwain y byd
Dywedodd dirprwy weinidog Llywodraeth Cymru dros Rhaglenni Ewrop, Alun Davies, bod Cymru mewn lle da i ddod yn arweinydd byd-eang wrth adeiladu diwydiant dylunio cynaliadwy sy'n cael ei arwain gan ddyfeisgarwch.
"Bydd cynyddu ein capasiti yn y maes hwn yn mynd â ni'n agosach at wireddu ein huchelgais o greu economi sy'n seiliedig ar drosglwyddo gwybodaeth, dyfeisgarwch a mentergarwch," meddai.
Dr Ian Walsh yw cyfarwyddwr cynllun Sefydliad Dylunio Cynaliadwy, ac yn bennaeth Ysgol Ddylunio Gwydr a Dylunio Diwydiannol ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe.
"Gweledigaeth y Sefydliad yw datblygu sector gweithgynhyrchu yng Nghymru sy'n gynaliadwy, yn wydn ac yn defnyddio dylunio dyfeisgar," meddai.
"Os yw Cymru am ffynnu ar lwyfan y byd, rhaid iddi fabwysiadu dull cynaliadwy tuag at ddyfeisgarwch dylunio."
Y llynedd, fe brynodd Prifysgol fetropolitan Abertawe hen adeilad llyfrgell y ddinas er mwyn creu cartref i'w Sefydliad Dylunio Cynaliadwy Ryngwladol.
Bydd lansiad y Sefydliad Dylunio Cynaliadwy yn digwydd ar yr un pryd ag agoriad arddangosfa o waith graddedigion Ysgol Ddylunio Diwydiannol a Gwydr Prifysgol Fetropolitan Abertawe, a hynny yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau am 6pm ddydd Mawrth, Mai 29.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2012