Cyhuddo dyn wedi damwain farwol
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn mewn cysylltiad â damwain ffordd yn ymyl Mynydd y Rhigos ger Treherbert yn ystod oriau mân bore Iau.
Mae'r dyn 24 oed yn wynebu cyhuddiadau o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac o ladrata cerbyd.
Bydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Pontypridd yn ddiweddarach ddydd Mawrth, ble bydd cais yn cael ei gyflwyno i'w gadw yn y ddalfa.
Bu farw Jennifer Evans, 31 oed o'r Dowlais, yn yr ysbyty wedi i'w fan wen Daihatsu Hijet ddisgyn 250 metr i lawr ceunant.
Roedd Ms Evans yn gyn ddisgybl a gofalwraig i blant â nam meddyliol yn Ysgol Gyfun Treorci.
Dywedodd ei rhieni, Shelly a Paul Evans: "Roedd Jen yn ferch, wyres, chwaer, modryb a chyfnither fendigedig. Bydd pawb oedd yn ei hadnabod yn teimlo'r golled yn fawr.
"Roedd hi'n berson bywiog a hwyliog oedd o hyd yn mwynhau."
Mae swyddog cyswllt yr heddlu yn rhoi cefnogaeth i'r teulu.
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i'r digwyddiad yn dal yn awyddus i siarad â thystion allai fod wedi gweld y fan wen yn teithio yn ardal Hirwaun tuag at Dreherbert.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r Heddlu ar 101 neu yn ddi-enw trwy ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.