Cynllun: Llai o droseddau
- Cyhoeddwyd

Mae nifer y galwadau i'r heddlu am ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gostwng o 265 i 87 ar ôl cyflwyno cynllun sy'n canolbwyntio ar gwynion dioddefwyr.
Roedd y cynllun peilot ym Merthyr Tudful yn canolbwyntio ar bobl oedd wedi ffonio'r heddlu o leiaf deirgwaith mewn cyfnod o dri mis.
Dywed Heddlu De Cymru eu bod wedi delio gyda'r bobl yma yn bersonol er mwyn adnabod y rhai oedd yn fregus ac angen cefnogaeth ychwanegol.
Mae cymdeithasau tai a staff iechyd proffesiynol hefyd wedi bod yn rhan o'r cynllun.
Mae'r heddlu yn dweud bod nifer y galwadau rhwng Hydref y llynedd a Ionawr eleni wedi gostwng yn ddramatig.
Mae'r nifer y bobl sy'n ffonio am ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd wedi disgyn o 62 i 21 y mis dros yr un cyfnod.
'Dull effeithiol'
Yn ôl un arbenigwr, roedd yn "ddull effeithiol sy'n ateb gofynion y dioddefwr".
Dechreuwyd y cynllun drwy ddadansoddi'r galwadau ddaeth i'r heddlu ar y gwasanaeth 101, ac fe welwyd bod nifer sylweddol o bobl yn ffonio mwy na theirgwaith dros gyfnod o dri mis.
Fe wnaeth yr heddlu ddefnyddio'r ystadegau i daclu pryderon cymunedau ar faterion fel trafferthion gyda chymdogion a delio gyda landlordiaid amheus.
Dywedodd Martin Innes, Athro Gwyddor yr Heddlu ym Mhrifysgol Caerdydd, bod y cynllun yn esiampl o sut i ddefnyddio adnoddau prin yr heddlu mewn ffyrdd newydd.
'Teilwra ymateb'
Yr Athro Innes sydd wedi bod yn monitro effeithiolrwydd y cynllun ym Merthyr Tudful.
"Yn hytrach na chanolbwyntio ar y troseddwyr, os yw'r heddlu ac asiantaethau eraill yn edrych ar y dioddefwyr a delio gyda'r problemau yna mi fedrwch chi gael ymateb llawer mwy effeithiol sy'n ateb pryderon y dioddefwyr.
"Ym Merthyr Tudful yr hyn a welsom yw bod yr heddlu wedi gallu lleihau nifer y bobl sy'n diodde' oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol o tua hanner dros gyfnod o flwyddyn."
Dywedodd yr Arolygydd Claire Hallett, sy'n gweithio ar y cynllun ym Merthyr Tudful, eu bod wedi gweithio'r eithriadol o galed dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn "teilwra ymateb yr heddlu yn briodol".
"Mae hyn wedi sicrhau bod aelodau o'r cymunedau ni yn cael y cymorth y maen nhw ei angen, boed hynny gan yr heddlu neu un o'n asiantaethau partneriaeth," meddai.
"Mae'r broses wedi sicrhau ein bod yn gallu gwahaniaethu rhwng y bobl sy'n diodde' trosedd yn aml, a'r rhai sydd yn amlwg ddim yn ddioddefwyr ond a allai fod yn fregus ac angen cymorth asiantaethau eraill.
"Rydym hefyd wedi gallu adnabod y rhai sy'n gwneud galwadau niwsans, a chymryd camau cadarn yn eu herbyn.
"Ar y cyfan, mae hyn wedi lleihau'r galw ar ein gwasanaethau rheng flaen, felly rydym yn ennill ymhob ffordd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2011