Dirwyn clwb i ben

Uwchgynghrair
Image caption Roedd y clwb yn drydydd yn yr Uwchgynghrair

Yn yr Uchel Lys yn Llundain mae Clwb Pêl-droed Castell-nedd wedi ei ddirwyn i ben.

Oherwydd deiseb Banc Barclays derbynnydd swyddogol sy'n delio â materion y clwb.

Roedd y clwb wedi llwyddo i osgoi gorchymyn dirwyn i ben ym Mawrth.

Ar Fai 21 llwyddodd clwb rygbi'r dre, sy'n rhannu perchennog, i osgoi gorchymyn dirwyn i ben wedi ffrae am dreth nad oedd wedi ei thalu.

Ynghynt yn y mis gohiriwyd cosb y clwb pêl-droed am fod gwaith papur y banc yn "anfoddhaol".

Ond ddydd Llun penderfynodd y llys gyflwyno "gorchymyn gorfodol".

Roedd y clwb yn drydydd yn yr uwchgynghrair, tu ôl i Fangor a'r Seintiau Newydd.