Cynnal angladd y milwr Lee Davies yn Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Is-gorpral Lee Thomas DaviesFfynhonnell y llun, MOD
Disgrifiad o’r llun,
Ymunodd Lee Davies â'r fyddin yn 2009

Mae angladd aelod o'r Gwarchodlu Cymreig a saethwyd yn farw yn Afghanistan wedi ei gynnal yn Eglwys y Santes Fair, Aberteifi.

Bu farw yrr Is-gorpral Lee Thomas Davies yn gynharach yn y mis yn nhalaith Helmand pan oedd wedi ei yrru i gynnig cefnogaeth i dîm ymgynghori'r heddlu yno.

Bu farw'r Corporal Brent John McCarthy, 25 oed o Telford, Sir Amwythig, yn yr un digwyddiad.

Cyn yr angladd dywedodd partner Lee Thomas Davies ei bod yn meddwl am deuluoedd milwyr eraill sydd wedi colli anwyliaid.

Balchder

"Lee oedd fy mywyd, fy myd, fy nyfodol, fy mhopeth. Fyddai byth yn ei anghofio," meddai Ms Dew.

"Rwy'n falch iawn o'r hyn a gyflawnodd mewn cyfnod mor fyr.

"Rhoddodd ei fywyd i warchod eraill ac roedd yn caru ei waith.

"Roedd gennym ddyfodol hapus o'n blaenau oedd yn edrych mor ddisglair.

"Fe gawsom chwe blynedd hapus gyda'n gilydd.

"Ond hefyd rwy'n meddwl am yr holl deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid a'r rhai sy'n gwasanaethu ein gwlad."

Rhoddion

Ymunodd Is-gorpral Davies â'r fyddin yn 2009 a chafodd ei ddyrchafu ym mis Rhagfyr y llynedd.

Cafodd ei yrru i Afghanistan ym mis Mawrth fel rhan o dîm heddlu o fewn y grŵp ymgynghorol i gynghori a mentora heddlu'r wlad.

Y Caplan Milwrol Steven Griffiths a'r Parchedig John Bennet o Aberteifi fydd yn arwain y gwasanaeth angladd.

Bydd ei gorff wedyn yn mynd i amlosgfa Parc Gwyn yn Arberth.

Mae'r teulu wedi dymuno peidio cael blodau ond bod cyfraniadau yn cael eu gwneud i Apêl y Gwarchodlu Cymreig drwy law'r trefnwyr angladdau, Colin Philips, 4 Morgan Street, Aberteifi, SA43 1DF.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol