Bryn Terfel yn tanio crochan Bangor

  • Cyhoeddwyd
Bryn Terfel
Disgrifiad o’r llun,
Bryn Terfel gariodd y fflam am y cymal olaf cyn tanio'r crochan

Mae'r Fflam Olympaidd wedi cyrraedd Bangor ar ddiwedd degfed diwrnod y daith o amgylch Prydain cyn i'r Gemau ddechrau ym mis Gorffennaf.

Bryn Terfel gafodd o fraint o danio'r crochan ar ddiwedd pedwerydd diwrnod taith y fflam o amgylch Cymru, a hynny ar Stad y Faenol lle sefydlodd yr ŵyl gerddorol yno dros ddegawd yn ôl.

Roedd yn ddiwrnod arall cyffrous i'r miloedd ddaeth i weld taith y fflam, ac unwaith eto roedd y tywydd yn fendigedig ar gyfer yr achlysur.

Yn ystod y dydd fe aeth y fflam ar y trên bach o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog ar y pedwerydd cymal rhwng Aberystwyth a Bangor ac fe gafodd ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Roedd 84 o bobl wedi cludo'r Fflam rhwng Aberystwyth a Stad y Faenol lle mae cyngerdd arbennig nos Lun.

'Naid driphlyg'

Dywedodd Bryn Terfel: "Mi oeddwn i'n dipyn o giamstar ar y naid driphlyg a'r naid uchel yn yr ysgol."

"Doeddwn i ddim yn ddrwg chwaith yn y 100 metr, ond doeddwn i ddim yn dda yn rhedeg milltiroedd."

Roedd blas rhyngwladol i'r daith ym Mlaenau Ffestiniog wrth i blant Ysgol Manod chwifio baneri yn cynrychioli rhai o'r gwledydd fydd yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd ym mis Gorffennaf.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd cyflwynydd Radio One, Chris Moyles, ddal y Ffagl a chludo'r Fflam drwy Aberystwyth ddydd Llun

Ymhlith y rhedwyr yn Aberystwyth roedd un o gyflwynwyr Radio One, Chris Moyles, sydd wedi bod yn dilyn taith y Fflam ers cyrraedd Pen Tir yng Nghernyw dros wythnos yn ôl.

Dywedodd fod 'na awyrgylch wych yn y dre' a'i bod hi'n fraint iddo gael cario'r Fflam.

Fel ymhob man arall y mae'r fflam wedi gorffwys am noson, fe fydd cyngerdd yn Y Faenol i ddathlu'r achlysur.

Dydd Mawrth fe fydd y fflam yn dechrau ar Ynys Môn cyn croesi Pont y Borth ac anelu am arfordir y gogledd cyn croesi'r ffin i Gaer.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol