Cynllun i adfer hen bont ger Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Y bont a Gwesty'r Chainbridge ym 1870Ffynhonnell y llun, llangollen museum
Disgrifiad o’r llun,
Llun o'r bont a thafarn gyfagos ym 1870

Fe all pont hanesyddol yn Sir Ddinbych gael ei hadfer a'i hagor i'r cyhoedd am y tro cyntaf er 1984 pe bai cynllun gwerth £325,000 yn cael ei gymeradwyo.

Cafodd y bont gadwyn Gregoraidd ym Merwyn ger Llangollen ei chodi yn 1814.

Ond yn 1984 nodwyd bod y bont, sy'n croesi Afon Dyfrdwy, yn anniogel.

Ond yn awr mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) wedi dyfarnu £28,900 i berchnogion y bont gomisiynu adroddiad manwl i adfer y bont.

Camlas Llangollen

Prynodd cynghorau tref a chymunedol yr ardal y bont am bunt i geisio'i hadfer.

Bydd y grant yn gadael i'r cyngor gomisiynu ymgynghorwyr i baratoi dyluniadau fydd yn galluogi cynigion ar gyfer y gwaith adnewyddu.

Mae Cyngor Tref Llangollen a Chyngor Cymunedol Llantysilio wedi bod yn ceisio codi arian i adfer y bont er 2007.

Llwyddodd y cynghorau i ennill y grant wedi iddynt gyflwyno adroddiad cychwynnol ar gyfer cyllid datblygu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.

Y bwriad yw adfer y bont gan greu arddangosfa, digwyddiadau cymunedol a mynediad i'r anabl o Orsaf Berwyn, sy'n rhan o reilffordd treftadaeth Llangollen.

Mae'r bont yn croesi Afon Dyfrdwy ac yn gyflinellol â'r rheilffordd ar un ochr a Chamlas Llangollen ar yr ochr arall.

Ysgolion lleol

Cafodd y bont wreiddiol ei hadeiladu gan Exuperius Pickering yn 1814 i gludo glo a llechi ac i arbed talu'r doll dros Bont Llangollen.

Ar ôl iddi rydu fe wnaeth y peiriannydd Henry Robertson ddisodli'r bont gydag un newydd.

Ond cafodd honno ei difrodi gan lifogydd yn 1928 ac fe osododd mab Robertson bont newydd yno yn 1929.

Cafodd yr holl ddarnau metel eu cynhyrchu yng ngwaith dur Brymbo.

Dywedodd clerc cyngor tref Llangollen y bwriad yw i ymwelwyr deithio ar hyd Camlas Llangollen mewn cychod yn cael eu tynnu gan geffylau cyn teithio ar drên stêm.

Mae'r cais loteri yn cynnwys cyd-weithio â grwpiau cymunedol fel ysgolion lleol a grwpiau hanesyddol gan gynnwys Amgueddfa Llangollen.

Bydd cais ail rownd yn cael ei gyflwyno i'r CDL yn ddiweddarach eleni, ac os bydd y cais hwnnw'n cael ei gymeradwyo gallai'r gwaith adnewyddu ddechrau'r flwyddyn nesaf, yn ôl Mr Parry.

Dywedodd pennaeth CTL Cymru, Jennifer Stewart: "Mae gan y bont y potensial i chwarae rhan allweddol o ran twristiaeth yn yr ardal gan roi hwb i'r economi lleol trwy greu cysylltiadau â busnesau lleol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol