Heddlu'n arestio chwech wedi llofruddiaeth ffermwr
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Sir Gaergrawnt, sy'n ymchwilio i lofruddiaeth ffermwr o Gymru, wedi arestio chwech o bobl.
Cafwyd hyd i gorff Llywelyn Thomas, 76 oed, yn wreiddiol o Sain Ffagan ger Caerdydd, wedi i'r heddlu gael eu galw i'w gartref yn Chittering, Sir Gaergrawnt, ar Ragfyr 18.
Dywed yr heddlu fod pedwar dyn 20, 22, 24 a 26 oed a bachgen 16 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Cafodd dynes 26 oed ei harestio ar amheuaeth o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
O'r carchar
Cafodd y ddynes a'r dynion 24 a 26 oed eu harestio yng Nghaergrawnt am 6am, gyda'r bachgen 16 oed yn cael ei arestio'r un pryd yn ninas Ely yn y sir.
Aed â'r ddau ddyn arall 22 ac 20 oed o'r carchar i gael eu holi yng ngorsaf yr heddlu Thorpe Wood.
Mae'r heddlu yn archwilio nifer o adeiladau yn ne Sir Gaergrawnt ar hyn o bryd.
Mae'r heddlu yn credu bod Mr Thomas wedi cael ei ladd wrth i rywun geisio lladrata o'i dŷ rhwng 9.30pm a 10pm ar Ragfyr 17.
Roedd nifer o eitemau wedi eu cymryd o'r tŷ.
Anafiadau i'w ben
Cafodd car Rover arian Mr Thomas, gyda'r rhif cofrestru BJ51 CJV, ei ddwyn o'i gartref a chafwyd hyd iddo yn ddiweddarach mewn pentref i'r gogledd ddwyrain o ddinas Caergrawnt, Milton.
Dangosodd archwiliad post mortem iddo farw o anafiadau i'w ben a'i wyneb.
Roedd Mr Thomas yn ffermio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr cyn symud i Loegr 12 mlynedd yn ôl.
Roedd yn ŵr gweddw gydag un mab.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2012
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011