Diwrnod anodd i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Cafodd Morgannwg fore a phrynhawn rhwystredig ar ddiwrnod cyntaf eu gêm yn erbyn Sir Gaerlŷr yn Stadiwm Swalec yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd ddydd Mawrth.
Erbyn canol y prynhawn roedd yr ymwelwyr wedi sgorio 137 am un wiced oddi ar 60 pelawd.
Ond yna bob ochr i amser te, fe gafodd bowlwyr Morgannwg lwyddiant o'r diwedd gan gipio pedair wiced mewn cyfnod byr.
Daeth un arall cyn cloi i adael yr ymwelwyr ar 199 am 6 wiced ar ddiwedd y chwarae.
Dechrau gofalus gafwyd gan fatwyr agoriadol Sir Gaerlŷr wrth sgorio 48 am y wiced gyntaf cyn i Greg Smith golli ei wiced c.f.w. oddi ar fowlio Jim Allenby am 26 rhediad.
Fe sgoriodd y llall, Michael Thornley, 97 cyn i Jim Allenby ei ddal oddi ar fowlio Huw Waters.
Bowliwr gorau Morgannwg yn ystod y dydd oedd Allenby a fowliodd 17 pelawd am ddim ond 21 rhediad gan gipio dwy wiced.
Elfen galonogol arall oedd gweld James Harris yn dychwelyd i'r tîm am y tro cynta'r tymor hwn weid anaf - fe gipiodd yntau wiced bwysig cyn te hefyd.
Mae Morgannwg ar waelod ail adran y bencampwriaeth gyda dim ond 27 pwynt ac mae Sir Gaerlŷr yn y safle olaf ond un gyda 45 pwynt.
Pencampwriaeth y Siroedd: Adran 2
Morgannwg v Sir Gaerlŷr - Diwrnod cyntaf
Sir Gaerlŷr = (batiad cyntaf)199-6
Morgannwg
Straeon perthnasol
- 26 Mai 2012