Cannoedd yn angladd milwr yn Aberteifi

Angladd milwr
Image caption Roedd yr angladd fore Mawrth yn Aberteifi

Roedd cannoedd yn angladd aelod o'r Gwarchodlu Cymreig yn Eglwys y Santes Fair, Aberteifi.

Saethwyd yr Is-gorporal Lee Thomas Davies yn farw yn gynharach yn y mis yn nhalaith Helmand pan oedd wedi ei anfon i gefnogi tîm ymgynghori'r heddlu.

Yr un pryd bu farw'r Corporal Brent John McCarthy, 25 oed o Telford, Sir Amwythig.

Y Caplan Milwrol Steven Griffiths a'r Parchedig John Bennet o Aberteifi oedd yn arwain y gwasanaeth angladd cyn y traddodiant yn Amlosgfa Parc Gwyn yn Arberth.

Cyn yr angladd yn Aberteifi dywedodd partner Lee ei bod hi'n meddwl am deuluoedd milwyr eraill oedd wedi colli anwyliaid.

Balchder

"Lee oedd fy mywyd, fy myd, fy nyfodol, fy mhopeth.

"Fydda i byth yn ei anghofio," meddai Charlotte Drew.

Image copyright MOD
Image caption Ymunodd Lee Davies â'r fyddin yn 2009

"Rwy'n falch iawn o'r hyn gyflawnodd mewn cyfnod mor fyr.

"Rhoddodd ei fywyd i warchod eraill ac roedd yn caru ei waith.

"Roedd gennym ddyfodol hapus oedd yn edrych mor ddisglair.

"Fe gawsom chwe blynedd hapus gyda'n gilydd."

Rhoddion

Ymunodd yr Is-gorporal Davies â'r fyddin yn 2009 a chafodd ei ddyrchafu ym mis Rhagfyr.

Cafodd ei anfon i Afghanistan ym Mawrth fel rhan o dîm heddlu o fewn y grŵp ymgynghorol i gynghori a mentora heddlu'r wlad.

Mae'r teulu wedi dymuno peidio â chael blodau ond bod cyfraniadau yn cael eu hanfon at Apêl y Gwarchodlu Cymreig drwy law'r trefnwyr angladdau, Colin Philips, 4 Stryd Morgan, Aberteifi, SA43 1DF.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.