Cwest: Bar metel 'ddim yn ddiogel'
- Published
Mae cwest wedi clywed bod beiciwr modur wedi marw wedi iddo daro "clwyd dros dro" ar Lwybr Taf.
Tarodd Jamie Roberts, 28 oed o Ferthyr Tudful, far metel yr oedd Gwyn Parry wedi ei osod.
Dywedodd Mr Parry wrth Lys y Crwner Aberdâr nad oedd wedi ystyried diogelwch beicwyr modur oherwydd yn ei farn e doedden nhw ddim i fod ar y llwybr.
Anffawd
Cofnododd y crwner, ddywedodd fod y bar yn anniogel, reithfarn o farwolaeth drwy anffawd.
Clywodd y llys fod Mr Roberts a dau ffrind yn gyrru beiciau modur ar Lwybr Taf ger Pontsticill ar bwys Merthyr yng Ngorffennaf 2010.
Ceisiodd Mr Roberts frecio cyn taro'r bar.
Cafodd anafiadau difrifol i'w ben a bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Dywedodd Mr Parry ei fod wedi gosod y "glwyd dros dro" er mwyn cadw ei wartheg yn saff wedi i glwyd arall ddiflannu.
Rhwyd wifrau
Yn wreiddiol, roedd wedi gosod rhwyd wifrau rhwng pyst y glwyd ond bod swyddogion cyngor wedi dweud bod hyn yn risg.
Roedd y cyngor wedi archebu clwyd newydd ond heb ei gosod oherwydd prinder staff.
Ar Orffennaf 1 roedd warden wedi sylwi ar y bar metel.
Dywedodd y warden wrth y cwest ei fod yn credu ar y pryd fod y "glwyd dros dro" yn ddiogel.