Gwaith hanfodol yn 'gur pen i siopau' yn Llandeilo

  • Cyhoeddwyd
Llandeilo
Disgrifiad o’r llun,
Mae rhai o berchnogion siopau'r dref yn pryderu y gallai eu busnesau ddiodde'

Yn Llandeilo mae yna bryder y gallai penderfyniad i gau prif stryd y dref am gyfnod beryglu dyfodol rhai o'r siopau lleol.

Mae cwmni Wales and West Utilities yn awyddus i gau Stryd Rhosmaen am hyd at 12 wythnos er mwyn gosod pibelli nwy newydd, gwaith hanfodol, yn ôl y cwmni.

Ond mae agwedd y cwmni a chyrff eraill wedi siomi rhai pobl leol sy'n honni na fu digon o ymgynghori.

Fe fydd gwaith ar Stryd y Bont wrth ymyl canol y dref yn dechrau'r wythnos nesaf ond mae yna bryder mawr ymhlith busnesau.

Dywedodd Nia Prydderch, perchennog siop flodau Pinc yn Llandeilo, ei bod yn ddig "am eu bod nhw'n anfon llythyr aton ni i ddweud eu bod nhw'n dechrau ar y gwaith ar Fehefin 6 ac y bydde hyn yn effeithio ar y dre' tan Dachwedd 30.

"Felly mae hanner blwyddyn o waith o'n blaenau ni.

"A chau'r hewl hefyd, o'r eglwys lawr at archfarchnad CKs am ryw dri mis ... o'n i jyst ffaelu credu'r peth a gweud y gwir."

'Dim cyngherddau'

Mae rhai yn pryderu am yr effaith ar nifer o ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu, gan gynnwys Gŵyl Jazz Llandeilo ym mis Gorffennaf.

Yn ôl Julia Jones, Aelod o Gyngor Tref Llandeilo: "Os y'n nhw'n mynd i ddrilo ar yr hewl o'r bont lan at Rosmaen, fyddwn ni ddim yn gallu cynnal y cyngherddau a dweud y gwir oherwydd bydd sŵn."

Mae'r cynghorydd sir newydd dros Landeilo, y Cynghorydd Edward Thomas, wedi galw am ohirio'r gwaith.

"Tri mis ar ôl y Nadolig mae'n dawel yn y dref ... mae 'na gyfle iddyn nhw wneud y gwaith heb effeithio ar y siopau bach."

Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru- adain o lywodraeth Cymru - sydd yn gyfrifol am y briffordd trwy Landeilo.

'Trafod yn helaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Wales and West Utilities fod cynrychiolydd wedi cwrdd â'r cyngor a'u bod wedi trefnu sesiynau holi ac ateb i bobl leol er mwyn trafod unrhyw bryderon.

Ychwanegodd eu bod wedi cytuno i gwrdd â'r cyngor a masnachwyr eto ym mis Mehefin ar ôl ystyried eu safbwyntiau a chyn cytuno cynlluniau terfynol.

"Yn ein gwaith cynllunio yn y dref, rydym wedi trafod yn helaeth gyda'r awdurdod lleol a'r Asiantaeth Cefnffyrdd.

"Mae'r gwaith yn hanfodol ar gyfer cyflenwad diogel o nwy i'r ardal a byddwn yn gwneud popeth posib i leihau'r anghyfleustra i bobl leol a masnachwyr."

Mae'r llywodraeth wedi dweud bod dyletswydd ar y cwmni sydd yn gyfrifol am osod y pibelli, Wales and West Wales Utilities, i ymgynghori â phobl yr ardal.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol