Tyrbinau: Galw am fwy o reolaeth
- Cyhoeddwyd

Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi galw am ganllawiau llymach i ddelio gyda sŵn o ffermydd gwynt.
Roedd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad yn pryderu am effaith y sŵn ar drigolion sy'n byw yn agos i dyrbinau gwynt.
Maen nhw wedi galw am ddiffodd tyrbinau diffygiol yn ystod oriau'r nos ac i gyflwyno ardal byffro er mwyn gwarchod pobl sy'n byw'n agos atyn nhw.
Nodwyd yr argymhellion mewn adroddiad a luniwyd mewn ymateb i ddeiseb oedd yn galw am ragor o reolaeth dros sŵn o dyrbinau gwynt.
Roedd dros 1,000 o lofnodion ar y ddeiseb.
Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y gellid defnyddio camau o'r fath pe bai Llywodraeth Cymru'n newid canllawiau cynllunio statudol mewn cysylltiad â thyrbinau diffygiol ac ardaloedd byffro.
Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau dros faterion cynllunio mewn cysylltiad â lleoli tyrbinau sy'n cynhyrchu llai na 50 Megawat ar y tir yn unig, ond ym marn y Pwyllgor nid yw'r diflastod o ran sŵn bob amser yn gymesur â maint y tyrbin.
Ymgynghoriad
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad ar y mater, ac, o ganlyniad i gael nifer sylweddol o ymatebion i'r ymgynghoriad o bentref Gwyddgrug yn Sir Gaerfyrddin, fe fu ar ymweliad â dwy fferm wynt yn yr ardal.
Cafodd y Pwyllgor nifer aruthrol o ymatebion gan bobl a oedd yn honni bod sŵn o dyrbinau gwynt yn effeithio ar eu cwsg ac yn amharu ar eu bywyd bob dydd.
"Clywsom fod rhai pobl nad oeddent bellach yn mwynhau bod allan yn eu gerddi eu hunain, ac roedd eraill yn ofni y byddai eu cartrefi'n colli'u gwerth, a rhai yn cael trafferthion cysgu a fyddai'n arwain at broblemau iechyd meddwl ac iechyd corfforol," meddai William Powell, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.
"Mae iechyd a lles pobl sy'n byw yng Nghymru yn brif flaenoriaeth gennym, ac mae'n hanfodol bod pobl sy'n byw yn agos i dyrbinau gwynt yn cael eu gwarchod.
"Mae'r Pwyllgor yn cydnabod pa mor bwysig yw sicrhau ffynonellau ynni gwyrdd i ddiwallu ein hanghenion o ran ynni yn y dyfodol, fodd bynnag, ni ddylid gwneud hyn ar draul iechyd pobl."
Mae'r Pwyllgor yn croesawu ystyriaeth y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd o'r mater ehangach o bolisi ynni yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at adroddiad y Pwyllgor ar y mater, a gaiff ei gyhoeddi cyn bo hir.
Straeon perthnasol
- 26 Mai 2012
- 8 Mai 2012
- 6 Mawrth 2012
- 3 Hydref 2011