Gwrthdrawiad: Pedwar wedi eu hanafu
- Cyhoeddwyd

Mae pedwar o bobl wedi eu hanafu - dau yn ddifrifol - oherwydd gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi i'r ddau gerbyd daro yn erbyn ei gilydd ar yr A539 ym mhentref Owrtyn ger Wrecsam.
Bu'n rhaid i ddiffoddwyr tân dorri dau berson o'r cerbydau.
Roedd y ddau arall "wedi eu hanafu anafu ond yn cerdded".
Aed â'r pedwar mewn ambiwlans i Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae'r ffordd wedi ailagor.