Delwedd anweddus gan ddyn ar brawf

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed fod gan ddyn oedd wedi ei garcharu am fod â phornograffi plant yn ei feddiant lun anweddus o blentyn yn ei ystafell mewn hostel prawf pan fu farw.

Cafwyd hyd i Anthony Billings, 45 oed o Gaergybi ar Ynys Môn, yn farw wedi iddo gael trawiad ym mis Medi 2010.

Barn y rheithgor yn y cwest yng Nghaernarfon oedd fod Billings wedi marw o achosion naturiol yn hostel Tŷ Newydd ym Mangor.

Roedden nhw hefyd o'r farn bod y sustem oruchwylio yn yr hostel ar y pryd yn "llac".

Cafodd Billings ei yrru i'r hostel wedi iddo gael ei rhyddhau o garchar ar drwydded o ddedfryd o ddwy flynedd am fod â 157,000 o ddelweddu anweddus yn ei feddiant. Dim ond sampl o'r ffeiliau ar ei gyfrifiadur gafodd eu harcwhilio gan yr heddlu.

Y tro diwethaf i staff yr hostel ei weld oedd deuddydd cyn ei farwolaeth, clywodd y cwest.

Dywedodd y crwner Dewi Pritchard-Jones wrth y rheithgor: "Fedra' i ond bod yn bryderus am y ffaith bod Mr Billings wedi ei gael yn euog o fod â delweddu anweddus o blant yn ei feddiant.

"Fe dreuliodd ddedfryd o garchar. Roedd ar fin cael ei yrru yn ôl i'r gymuned, a dyma ni'r lluniau yma - be welwch chi yna ond llun anweddus o blentyn?

"Onid yw hynny'n destun pryder?"

Clywodd y cwest bod ymchwiliad wedi ei gynnal gan y Gwasanaeth Prawf a'r Ombwdsmon Prawf a Charchardai.

Ers Rhagfyr 2010, mae rheolwr newydd yn yr hostel, ac mae cyfundrefn llymach yno bellach.

Mae ymweliadau bod dwy awr yn cael eu gwneud i wirio iechyd y trigolion tan yn hwyr gyda'r nos, ac mae archwiliadau ystafelloedd yn lalwer mwy trylwyr, clywodd y cwest.